Rhyddhau sengl agoriadol albwm newydd Rio 18
Mae prosiect Rio 18 wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sef ‘Casa Loca’ (gwallgofdy). Rio 18 yw prosiect rhyngwladol y cerddor toreithiog, Carwyn Ellis, ynghyd ag Elan Rhys (Plu, Bendith) a’r offerynnwr taro Baldo Verdú o Venezuela, sydd i’w glywed yn canu ar y sengl hon.