Rhyddhau EP Ritual Cloak

Mae’r grŵp o Gaerdydd, Ritual Cloak wedi rhyddhau eu EP newydd ers dydd Gwener 14 Ebrill. ‘Vanished in Transition’ ydy enw’r record fer ddiweddaraf gan y ddeuawd amgen sy’n eu symud i gyfeiriad cerddorol newydd sy’n cynnwys dylanwadau cerddoriaeth ambient,  jazz, doom metal ac arbrofi Indiaidd George Harrison.