Cyhoeddi Lein-yp Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi eu lein-yp ar gyfer y digwyddiad eleni. Cynhaliwyd Gŵyl Gwrw Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos, a chan ddilyn traddodiad y blynyddoedd diwethaf, dyma oedd digwyddiad lansio’r brif ŵyl sy’n cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.