skylrk. yn rhyddhau ei ail sengl

Mae skylrk. wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 29 Gorffennaf. ‘adfywio.’ ydy enw’r trac newydd a dyma ydy’r ail sengl i’w rhyddhau gan y prosiect hip-hop cyffrous o Ddyffryn Nantlle.  skylrk. ydy prosiect cerddorol Hedydd Ioan sydd hefyd y gyfarwydd fel cyfarwyddwr ffilm addawol dros ben.