Pennod newydd Y Sôn
Mae blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi’r bennod ddiweddaraf o bodlediad ‘Y Sôn’. Am resymau amrywiol, mae peth amser ers iddynt gyhoeddi’r diwethaf o’r podlediadau rheolaidd yn trafod cerddoriaeth felly mae’r bennod newydd yn bwrw golwg nôl ar sawl pwnc cerddorol o’r misoedd diwethaf.