Fideo sengl Sywel @ Lŵp

Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Sywel Nyw, ‘Machlud’. Rhyddhawyd ‘Machlud’ ddydd Gwener diwethaf, 7 Ionawr, a dyma’r ddeuddegfed sengl mewn deuddeg mis gan brosiect unigol Lewys Wyn o’r grŵp Yr Eira.