‘Galaru’ – cerddoriaeth newydd gan Talulah
‘Galaru’ ydy enw’r sengl newydd gan Talulah sydd allan nawr ar label Recordiau I KA CHING. Canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru yw Talulah ac maent yn plethu dylanwadau jazz a chlasurol gyda chanu breuddwydiol a harmonïau cyfoethog.