Sengl yn flas o albwm Tara Bandito

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 13 Ionawr. ‘Croeso i Gymru’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Tara, ac mae’n ddilyniant i gyfres o senglau a ryddhawyd ganddi ar ddechrau 2022 ac yna’r trac ‘Woman’ a ddilynodd ym mis Tachwedd.