Tesni Hughes yn cyhoeddi ‘Dim Mwy’
Ar ôl dwy flynedd ers ei sengl ddiwethaf, mae’r artist o Ynys Môn, Tesni Hughes yn dychwelyd gyda sŵn hollol newydd. ‘Dim Mwy‘ ydy enw’r sengl newydd fydd allan ganddi ar label INOIS.
Ar ôl dwy flynedd ers ei sengl ddiwethaf, mae’r artist o Ynys Môn, Tesni Hughes yn dychwelyd gyda sŵn hollol newydd. ‘Dim Mwy‘ ydy enw’r sengl newydd fydd allan ganddi ar label INOIS.
Does dim amheuaeth fod Tesni Hughes yn un o’r artistiaid ifanc sy’n werth cadw llygad arni dros y misoedd a blynyddoedd nesaf.
Mae’r artist ifanc o Fôn, Tesni Owen Hughes, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Cwestiynau’, ar label newydd INOIS.
Bydd y cerddor ifanc o Fôn, Tesni Hughes, yn rhyddhau ei sengl newydd ar 10 Chwefror. ‘Cwestiynau’ ydy enw trydedd sengl Tesni, a dyma’r gyntaf iddi ryddhau ar label newydd Inois.
Gruffudd ab Owain sy’n awgrymu pa artistiaid ifanc ddylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod… Roedd pryder ymysg nifer fod y pandemig a’i sgîl-effeithiau wedi dod â rhwystrau i gerddorion ifanc newydd yng Nghymru, ac y byddai’n her ennyn diddordeb a ffurfiant bandiau newydd wedi’r cyfnodau clo.
Mae’r gantores ifanc o Fôn, Tesni Hughes, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 5 Chwefror. ‘Atgofion’ ydy enw’r trac newydd sydd allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.
Mae’r gantores ifanc o Fôn, Tesni Hughes, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd ar y llwyfannau digidol arferol.
Mae cantores ifanc addawol o Fôn, Tesni Hughes, wedi cyhoeddi trac unigol newydd ar ei safle Soundcloud wythnos diwethaf allai danio ei gyrfa unigol.