Thallo

Rhyddhau EP Thallo

Mae Thallo wedi rhyddhau ei EP newydd ar label Recordiau Côsh ers dydd Gwener diwethaf. Crescent ydy enw’r EP dwyieithog newydd gan brosiect y gantores a ddaw’n wreiddiol o Wynedd ond sydd bellach wedi’i lleoli’n Llundain, Elin Edwards.