The Gentle Good yn rhyddhau sengl ‘Tachwedd’
Mae un o gerddorion mwyaf profiadol a hoffus Cymru, The Gentle Good, yn ôl gyda sengl newydd. ‘Tachwedd’ ydy enw’r trac sydd allan ers dydd Gwener 22 Tachwedd ac mae’n damaid i aros pryd nes albwm nesaf y cerddor.