The Joy Formidable yn ryddhau EP o ganeuon Cymraeg
Mae The Joy Formidable wedi rhyddhau EP newydd o ganeuon Cymraeg heddiw dan yr enw Pen Bwy Gilydd. Mae’r dyddiad rhyddhau yn cyd-fynd ag ymddangosiad prin gan The Joy Formidable yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth iddynt berfformio fel rhan o gigs ymylol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghlwb Rygbi Tregaron nos Iau.