Tokomololo yn disgleirio

‘Disglair’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan yr artist electronig newydd Tokomololo. Tokomololo ydy prosiect y cerddor Meilir Tee Evans – artist sydd wedi cymryd blynyddoedd i ddod o hyd i’w hunaniaeth gerddorol ac mae cynnyrch Tokomololo yn profi ei fod wedi llwyddo.