Fideo ‘Hiraeth Ddaw’ gan Jacob Elwy
Mae’r fideo ar gyfer sengl newydd Jacob Elwy a’r Trŵbz wedi’i gyhoeddi ar-lein wythnos diwethaf. Rhyddhawyd ‘Hiraeth Ddaw’ ar 26 Mehefin, a hon ydy’r drydedd mewn cyfres o senglau mae Jacob wedi’i ryddhau gyda’r Trŵbz yn ystod 2020.