Welsh Whisperer nôl ar faes y sioe

Mae’r Welsh Whisperer wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 24 Gorffennaf. Mae’r adlonnwr poblogaidd wedi cydweithio gyda Menter Brycheiniog a Maesyfed, ynghyd â phlant Ysgol y Bannau, Aberhonddu i gyfansoddi cân deyrnged i’r sioe amaethyddol, ddylai fod wedi bod yn digwydd yn Llanelwedd wythnos diwethaf.