Cyhoeddi fideo ‘Taran’ gan Wigwam

Mae’r grŵp ifanc o Gaerdydd, Wigwam, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu trac ‘Taran’ ar-lein. Mae ‘Taran’ yn un o’r traciau sydd ar albwm cyntaf Wigwam, ‘Coelcerth’, a ryddhawyd ar label Recordiau JigCal mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddechrau mis Awst.