Sengl newydd Worldcub, ac albwm i ddod

Mae’r grŵp o Arfon, Worldub, wedi rhyddhau eu sengl, ‘Torri’. Y ddau frawd, Cynyr a Dion Hamer ydy aelodau craidd Worldcub, ynghyd â Carwyn Ginsberg (sydd hefyd yn aelod o Hippies v Ghosts a Fauna Twin) ar y gitâr a Dion Wyn Jones (Alffa) ar y gitâr fas wedi ymuno’n fwy diweddar.