Y Dail i ryddhau ail sengl

Bydd y grŵp newydd o Bontypridd, Y Dail, yn rhyddhau eu hail sengl ddydd Gwener yma, 21 Mai, ‘O’n i’n Meddwl Bod ti’n Mynd i Fod yn Wahanol’ ydy enw’r trac newydd gan y prosiect ifanc cyffrous.