Adwaith yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr eilwaith
Enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni ydy Adwaith gyda’u hail albwm, Bato Mato. Datgelwyd y newyddion fel rhan o seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fercher diwethaf, 26 Hydref.