Ystyr i ryddhau albwm cyntaf

Bydd y grŵp Ystyr yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener yma, 24 Mehefin. ‘Byd Heb (Ystyr)’ ydy enw record hir gyntaf y grŵp a ddechreuodd ryddhau cerddoriaeth yn ddigidol ar Bandcamp yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020.

Ystyr yn rhyddhau ‘Pysgod’

Mae’r grŵp Ystyr wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener 27 Mai. ‘Pysgod’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp arbrofol sydd wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth yn weddol rheolaidd ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf.

Ail-ryddhau Sengl Nadolig Ystyr

Mae’r grŵp electronig, Ystyr, wedi penderfynu ail-ryddhau eu sengl Nadolig, ‘Dolig Weird’. Fe ryddhawyd y sengl yn wreiddiol llynedd ar eu safle Bandcamp yn unig, ond eleni maent wedi penderfynu ail-ryddhau’r trac yn iawn ar yr holl lwyfannau digidol arferol.