Rhyddhau albwm newydd Yws Gwynedd
Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei albwm newydd, Tra Dwi’n Cysgu. Yn 2017, wedi gig lwyddiannus yng Ngŵyl Rhif 6, penderfynodd Yws Gwynedd a’i fand bod eu cyfnod wedi dod i ben, ar ôl rhyddhau dau albwm a gigio am bedair blynedd, yn torri recordiau niferoedd torfeydd byw a ffigyrau ffrydio yn y broses.