Zabrinski yn rhyddhau ‘Sinkhole Hotspot’
Mae Zabrinski wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 12 Chwefror. ‘Sinkhole Hotspot’ ydy enw’r trac newydd ac yn ôl y grŵp mae’r gân yn trafod stori wir – pan oedd aelodau Zabrinski’n byw gyda’i gilydd yn 2007, llyncwyd y band gan sinkhole anferthol yn Nhreganna, Caerdydd a dim ond yn ddiweddar maent wedi ymddangos nôl ar wyneb y ddaear ar ôl dringo allan o’r twll.