I gloi ein cyfres haf mi fydd Gigs Cantre’r Gwaelod yn cynnal gwledd gwerinol yng nghwmni un o arloeswyr y sin gwerinol sef Sian James gyda Patrobas a Glain Rhys yn ei chefnogi.
Siân James yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif aroleswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol. Canai’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac yn gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd ac fe’i pherchir fel un o’n prif llysgenhadon cerddorol. Erbyn hyn mae hi wedi rhyddhau naw albym o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol a gwmpasai ein emosiynau tyfnaf, o gariad a chwerthin, i golled a’r byd ysbrydol.
Patrobas ydi Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams a Gruffydd Davies, ac mae’r pedwar yn frodorion o ardal Pen Llŷn, Gogledd Cymru. Cafodd y band ei ffurfio dros dair blynedd yn ôl, mae’r band wedi mynd o nerth i nerth gan gigio yn rheolaidd ar draws Cymru. Un o’r caneuon mwyaf poblogaidd oddi ar eu albwm “Lle awn ni nesa” yw Castell Aber… cyd-ddigwyddiad felly fod yr un castell ym mhoster y gyfres hon a gafodd ei ddylunio gan yr artist Efa Lois.
A gan mai hon yw’r gig olaf o dair yn y gyfres meddylion ni man a man i ni gael trydydd artist a honno yw Glain Rhys o ardal Y Bala. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Glain wedi ffurfio band gyda Marged Gwenllian a Carwyn Williams er mwyn datblygu ei sain ac yn ddiweddar iawn fe wnaeth Glain a’i band newydd rhyddhau albwm o’r enw Atgof Prin.
Fe fydd tocynnau ar werth o ddydd Sadwrn Gorffennaf 10fed o Siop y Pethe a Siop Inc Aberystwyth. Pris oedolion yn £12 a phris plant yn £6.