Sadwrn, 7 Mehefin

Gŵyl Tawe 2025

10:00–21:00 (Am ddim)
Yn ymuno gyda Gruff Rhys mae’r gwesteion arbennig Adwaith, a fydd yn chwarae set headline llawn cyn Gruff ar lwyfan Gardd yr Amgueddfa.
Hefyd yn ymuno gyda’r rhaglen gerddorol ar draws dau brif lwyfan yr ŵyl mae EADYTH, Los Blancos, Mari Mathias, Mali Hâf, a Pys Melyn. Mae yna mwy o gerddoriaeth dal i’w chyhoeddi, gan gynnwys parti cloi arbennig yn lleoliad y Bunkhouse ar nos Sul yr 8fed o Fehefin.
Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim i fynychu ar system gyntaf i’r felin, gyda’r amgueddfa yn agor am 10yb a’r adloniant yn rhedeg hyd at 9yh.