Cyngerdd Nadolig Mared Williams a’r band, gyda chefnogaeth gan Alis Glyn (a rhai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn)
Beth? Dewch i fwynhau cyngerdd Nadoligaidd-ei-naws yng nghwmni Mared a’i band. Bydd hi’n cael ei chefnogi gan Alis Glyn a bydd ambell i eitem gan rai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn.
Ble? Eglwys y Santes Fair, Conwy
Pryd? Nos Wener, Rhagfyr 5ed. Bydd drysau’n agor am 6:30pm
Nid oes cost i archebu tocyn gan fod y digwyddiad AM DDIM, ond byddwn yn gofyn yn garedig am roddion ar y drws i fynd tuag at y gost o drefnu digwyddiad o’r fath. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.