Sengl newydd Mynadd
Mae’r grŵp o ardal Y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl diweddaraf.
‘Adra’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar Recordiau I KA CHING.
Dyma’r rhagflas cyntaf o albwm cyntaf y band pump aelod o Benllyn fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin.
Mae’r trac, a’r gwaith celf sy’n cyd-fynd, gyda llun Geraint Thomas ac wedi’i gysodi gan Dyfan Williams, yn gwahodd aml i ddehongliad o’r cysyniad o ‘adra’…neu ‘adre’ i ambell un o’r band gollodd y frwydr benodol honno. Boed hynny i’w ganfod yng nghwmni cyfeillion neu anwyliaid, yn nhrugareddau’r tŷ, neu yn y fro o’n cwmpas, mae’n gân sionc sy’n dwyn ei hapusrwydd syml i gof.
Yn oedolion ifanc neu oedolion newydd, daw’n fwyfwy i’r amlwg i aelodau’r band fod cysur yn yr ‘adra’ sy’n eu hangori.”yr un hen wên ac arferion,” fel dywed geiriau’r gân, sydd wedi eu hysgrifennu gan y basydd Nel Thomas.
Yn y bôn, cân serch ddiniwed sydd yma, ac mae’r gytgan yn un sy’n siŵr o godi canu.
Ifan Emlyn Jones fu’n gweithio gyda’r band ar gynhyrchu’r albwm, a bu Alys Williams draw yn Stiwdio Sain i ymgynghori ar y llais.
Mae haf prysur ar y gweill i’r band; yn ogystal â thaith fer i hyrwyddo eu halbwm newydd, mi fyddan nhw’n perfformio yn Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.