Mae’r band dawns a wnaeth eu marc yn wreiddiol ar ddechrau’r 1990au, Diffiniad, ar fin rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dros chwarter canrif.
Diddiwedd ydy enw’r record hir newydd ganddynt a fydd yn cael ei ryddhau ar ddydd Llun 19 Mai.
I fod yn fanwl gywir, mae 27 o flynyddoedd ers i Diffiniad ryddhau eu halbwm diwethaf, sef ‘Digon’ ym 1998. Ac ar ôl cyhoeddi nifer o senglau llwyddiannus dros y blynyddoedd diweddar, mae’r band chwedlonol yn barod i’ch llusgo yn ôl i’r llawr dawns, gyda deuddeg trac i’ch enaid a’ch traed ar yr albwm newydd.
Pontio degawdau
Wedi’i ffurfio yn Yr Wyddgrug yn 1991 gan y ffrindiau ysgol Iestyn Davies, Iwan Jones, Geraint Jones ac Ian Cottrell, gyda Bethan Richards ac Aled Walters yn ymuno ar hyd y ffordd, Diffiniad oedd un o grwpiau mwyaf llwyddiannus y sîn gerddorol Gymraeg yn y 90au.
Roedd y band wedi arwyddo gyda label dylanwadol ANKST, ac aethant ymlaen i ryddhau pedwar albwm, sef Di (1992), Discodawn (1993), Dinky (1994) a Digon’(1998), gyda’r casgliad Diffinio yn crynhoi’r cyfnod yn 2003.
Gan ddefnyddio cerddoriaeth ddawns yn gerbyd i gyfleu’r cyffro, a gyda chaneuon adnabyddus fel ‘Funky Brenin Disco’, ‘Dewch At Eich Gilydd’, ‘Tro Fi Mlaen’, ‘Hen Fyd Trist’, yn ogystal â’u fersiwn o ‘Calon’, mae’r grŵp wedi hawlio’i le yn llyfrau hanes pop Cymraeg, gydag alawon cofiadwy a gafaelgar yn llywio’r cyfan. Yn pontio degawdau a chenedlaethau, mae caneuon Diffiniad yn dal i swnio’n ffres hyd heddiw.
Albwm i’r haf a’r hwyr
Byth yn ofni mentro nac arloesi, a gan ddefnyddio technoleg y stiwdio recordio bob amser i wthio ffiniau cerddoriaeth pop, mae hyn i’w glywed yn glir ar yr albwm newydd, o sŵn beiddgar a budr ‘Y Drosedd’ i Europop iwfforig ‘Brodyr a Chwiorydd’.
Tra bod ‘Gofodcalychwys’ yn amlygu natur chwareus y grŵp, a ‘Vive Le Punk!’ yn groove thang, mae ‘Dwyn Pob Eiliad’ yn dwyn i gof uchelfannau’r 90au, gyda ‘Dawnsio Ben Fy Hun’ yn epig i orffen y noson, a’r albwm.
Wedi’i gynhyrchu gan y grŵp, mae Diddiwedd yn albwm i’r haf a’r hwyr, boed y belen felen yn yr awyr yn tywynnu neu’r belen ddisco yn y clwb nos yn disgleirio. Wedi’i fwynhau ar ei orau gyda’r ffenestri i lawr, neu – i ddyfynnu un o ganeuon eraill y grŵp – ‘lawr yn y disco’, does dim amheuaeth bod dawn Diffiniad yn parhau, ac mae’n gryfach nag erioed ar y casgliad newydd.
Bydd yr albwm allan ar 19 Mai ar label Cantaloops a bydd cwpl o gyfleoedd i weld Diffiniad yn perfformio’n fyw dros yr haf.
Dyma un o draciau’r albwm sydd eisoes wedi glanio fel sengl, ‘Ceiniog a Dimau’: