Mae’r band o ardal Y Bala, Mynadd, wedi gollwng eu halbwm cyntaf ar eu safle Bandcamp ac ar CD, wythnos cyn iddo lanio ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
‘Dio Mor Hawdd a Hynny’ ydy enw record hir cyntaf y grŵp ifanc o Benllyn ac fe fydd ar gael ar y llwyfannau digidol i gyd ddydd Gwener yma, 13 Mehefin.
Ond, cyn hynny, mae modd cael gafael ar gopi CD o’r LP neu brynu fersiwn digidol ar safle Bandcamp y band.
Daw’r albwm llawn ar ôl rhyddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd eleni sef ‘Adra’ ym mis Ebrill ac yna ‘Tra Môr yn Fur’ a ryddhawyd ym mis Mai.
Daw enw’r albwm o eiriau’r gân ‘Llwybrau’, sef y sengl gyntaf a ryddhawyd gan Mynadd ym mis Hydref 2023. Mae’r teitl yn awgrym o’r benbleth a newydd-deb a ddaw wrth ddod i oed, ac mae hwn yn thema sy’n gwau’r holl albwm at ei gilydd.
Cyfansoddwyd y caneuon dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner lle bu’r aelodau’n cyrraedd y chweched dosbarth, mynd i’r brifysgol, byw dramor a mentro i’r byd gwaith am y tro cyntaf.
Mae’r band yn gyndyn i gategoreiddio eu hunain i un genre cerddoriaeth ar hyn o bryd, ond mae’n deg dweud bod hwn yn albwm pop, ond yn dwyn elfennau jazz, ffync a soul yn rhai o’r caneuon tra bod eraill fel ‘Tra Môr yn Fur’ ac ‘Y Newid’ yn fwy atmosfferig ac epic.
Mae dylanwadau cerddorol Mynadd yn amrywiol ond mae’r gyfoeth o fandiau diweddar sydd wedi dod o ardal Penllyn – Candelas, Y Cledrau a Blodau Papur – yn rai dylanwadau amlwg ar yr albwm cyntaf.
‘Awn Ni?’ ydy trac agoriadol yr albwm: