Albwm newydd Me Against Mysery

Mae Me Against Mysery wedi rhyddhau albwm newydd dwy-ieithog ers dydd Gwener 23 Mai. 

‘Fire in the Den of Thieves’ ydy enw’r casgliad diweddaraf gan brosiect y cerddor Matt Rhys Jones a ddaw o’r Rhondda. 

Mae’r record hir yn ddilyniant i’r albwm ‘Crafangau’ a ryddhawyd gan Me Against Mysery yn 2022. 

Mae’r albwm yn plymio i themâu o anghyfiawnder, dinistr amgylcheddol a methiant cyfalafiaeth yn ôl yr artist, gyda chaneuon fel ‘Neo-Liberal’ a ‘Wolves and Vultures’ yn adrodd hanesion gorbryder ac anobaith gyda chymdeithas sydd ynghlwm yn ngafael trachwant  corfforaethol. 

Mae’r gitarydd Stuart Anstee yn cyfrannu i’r albwm unwaith eto gyda’i felodiau pruddglwyfus, gan gynnig cynildeb atmosfferig i’r record sy’n amlwg iawn ar ganeuon fel ‘Llymder’ a ‘Standing in the Ashes’. Bu i Anstee hefyd gyd-gyfansoddi pedair o’r caneuon.  

Sengl gyntaf yr albwm oedd ‘Gwanwyn’, sy’n cynnig golwg galonogol ond chwerw-felys o oroesi a gwytnwch mewn amseroedd caled. 

Gofyn cwestiynau

Trac Cymraeg sy’n cloi’r casgliad hefyd, sef ‘Gwlad y Gân’, ac mae gweld Matt Rhys Jones, sy’n gefnogwr hirdymor o annibyniaeth i Gymru, yn gofyn sawl cwestiwn difrifol am y wlad mae’n ei galw’n gartref iddo. 

Mae’r trac yn adlewyrchiad o ganeuon tywyll, gwleidyddol, ond sydd hefyd yn ddigon bachog yn eu cyfansoddiad. 

“Rydw i’n taflu goleuni ar ble rydyn ni a beth ddaeth â ni yma” Matt Rhys Jones am yr albwm.

“Rwy’n dal drych i fyny ac yn dweud ‘cymerwch olwg, ond efallai na fyddwch yn hoffi’r hyn a welwch’, meddai Matt Rhys Jones, sef Me Against Misery.    

“Mae elw a cham-fanteisio ers y pandemig newydd gyrraedd lefelau annioddefol. Mae’n gwneud i chi feddwl tybed a fydd pobl byth yn blino o fod yn eiddo i gorfforaethau, neu hyd yn oed sylweddoli eu bod nhw.  

“Mae bob amser yn werth cofio, yn sicr yma yng Nghymru o leiaf, nad oes rhaid iddo fod fel hyn, mae gennym ni opsiynau eraill ar gael i ni. Mae yna ffordd arall, dim ond yr ewyllys sydd ei angen”.