Bendigaydfran a Popeth yn cydweithio eto

Mae’r bartneriaeth gerddorol unigryw rhwng Bendigaydfran a Popeth yn parhau wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl ddiweddaraf ar y cyd. 

‘Calon Neon’ ydy enw’r sengl newydd gan y ddeuawd sydd allan ar label Recordiau Côsh. 

Mae’r trac newydd yn ddilyniant i ‘Blas y Diafol’ a ryddhawyd fel cydweithrediad rhwng y ddau yn 2022. 

Popeth ydy prosiect pop arbrofol y cerddor profiadol Ynyr Gruffudd Roberts, sy’n gyfarwydd iawn cyn hyn fel aelod o Brigyn gyda’i frawd Eurig. 

Bendigaydfran ydy Lewis Owen a ddaw’n wreiddiol o Ferthyr ac sydd wedi gwneud enw i’w hun ar lwyfannau Twitter a TikTok. 

Mae ‘Calon Neon’ yn gân sy’n crisialu’r teimlad o fywyd nos ym mhrifddinas Cymru – cerddoriaeth, dawnsio, gwefr! Ond yn ddyfnach na hynny, prif fwriad y gân yw awgrymu beth allai Gymru gynnig i gystadleuaeth Eurovision. 

Roedd rhyddhau’r trac wythnos yma’n amserol wrth gwrs wrth i Eurovision gael ei gynnal y Y Swistir dros y penwythnos. 

Mae Bendigaydfran eisoes wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth europop a eurodance, ac fel ffan enfawr o Eurovision, ei freuddwyd ers erioed yw gweld Cymru’n cystadlu yn y gystadleuaeth. Fel ‘Gwlad y Gân’, gall Gymru wir gynnig rhywbeth unigryw i’r llwyfan Ewropeaidd, a dyma ateb Bendigaydfran a Popeth i hynny.