Cyhoeddi artistiaid Gŵyl y Gogs 2025

Mae Gŵyl y Gogs, a gynhelir yn Y Bala, wedi cyhoeddi manylion yr arlwy gerddorol eleni.

Cynhelir yr ŵyl ar benwythnos 29-30 Awst ac mae’r trefnwyr wedi datgelu pa artistiaid fydd yn perfformio.

Ar nos Wener 29 Awst, y band lleol, Y Cledrau fydd y prif atyniad gyda chefnogaeth gan Pys Melyn ac Alis Glyn. Yna ar ddydd Sadwrn 30 Awst bydd perfformiadau gan Linda Griffiths, Mynadd, Buddug, Gwilym ac Yws Gwynedd.

Yn ôl y trefnwyr bydd tocynnau’r ŵyl ar werth yn fuan, a gallwch weld y newyddion diweddaraf ar dudalen Facebook yr ŵyl