Mae trefnwyr gŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi wedi datgelu enwau eu ton gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio yn 2025.
Cynhelir yr ŵyl aml-leoliad rhwng 30 Hydref a 1 Tachwedd eleni.
Ymysg yr enwau sydd wedi’u cyhoeddi mae Gruff Rhys; y grŵp ‘Britainicana’ o Fanceinion a enillodd wobr Talent Newydd Glastonbury, Westside Cowboy; a’r grŵp gwerin o Iwerddon sydd wedi ennill Gwobr Gwerin Radio 1 RTÉ chwe gwaith, Ye Vagabonds.
Bydd dros hanner cant o artistiaid yn perfformio i gyd dros y penwythnos, a hynny mewn dros 10 o leoliadau gwahanol ac yn eu mysg fydd y band ifanc lleol, Dewin!
Yr enwau eraill sydd wedi ei datgelu hyd yma ydy Afro Cluster / Annie-Dog / Basht. / Carys Eleri / Clare Sands / Dionne Bennett / Internet Fatigue / George Houston / Lisa Knapp & Gerry Diver / lullahush / Méabh McKenna / Meryl Streek / Nancy Williams / Piaras O’Lorcáin / Súil Amháin / SexyTadhg / Sustinere / VRï.
Mae modd archebu tocynnau penwythnos yr ŵyl nawr am £65.