Mae trefnwyr Gŵyl Tawe wedi datgelu’r manylion olaf ynglŷn ag arlwy’r digwyddiad eleni.
Cynhelir Gŵyl Tawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ddydd Sadwrn 7 Mehefin.
Bydd cerddoriaeth fyw drwy’r dydd o 12:30 ymlaen gydag artistiaid yn perfformio am yn ail rhwng yr ardd a Llwyfan y Taliesin yn yr Ystafell Ocean drwy gydol y prynhawn. Bydd hyn yn cynnwys set arbennig gan Adwaith ar lwyfan Cymru Greadigol wrth i’r band ddychwelyd i’r ŵyl wedi rhyddhau eu trydydd albwm, ‘Solas’.
Bydd llwyfan Cymru Greadigol yng ngardd yr amgueddfa yn agor gyda set gan y cerddor ifanc a chyffrous o Abertawe, Manon.
Pys Melyn fydd yn cloi Llwyfan y Taliesin yn dilyn 2024 prysur i’r band a oedd yn cynnwys recordio sesiwn BBC 6 Music ar gyfer Riley & Coe, cefnogi Gruff Rhys ar y daith ‘Sadness Sets Me Free’, a pherfformio ochr yn ochr â Spiritualized yn Focus Wales.
Bydd Gruff Rhys a’i fand wedyn yn camu i’r llwyfan Cymru Greadigol i gloi’r ŵyl gyda’u sioe gyntaf yn Abertawe ers 2019. Mae’r lein-yp cerddorol llawn ar draws y ddau lwyfan hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Crys, EADYTH, Kizzy Crawford, Los Blancos, Mari Mathias, Mali Hâf, a Penne Orenne.
Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd cyntedd yr amgueddfa hefyd yn cynnal amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau ychwanegol gan bartneriaid Menter Iaith Abertawe. Rhwng 15:00 a 18:00 yn Oriel y Warws bydd cyfle i weld sesiynau AM Cymru Menter Iaith Abertawe wedi’u recordio gydag artistiaid sy’n chwarae yn yr ŵyl mewn gwahanol leoliadau ledled Abertawe ar y sgrin fawr. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys Los Blancos yn fyw o Theatr y Grand, Mali Hâf yn fyw o Arena Abertawe, a HMS Morris yn fyw o’r Kardomah Café.
Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim i’w fynychu ar sail system cyntaf i’r felin, gyda’r amgueddfa’n agor am 10:00 a’r diwrnod yn dechrau gydag amrywiaeth eang o berfformiadau gan ysgolion yr ardal ar lwyfan Coleg Gŵyr Abertawe yn Oriel y Warws.
I ddirwyn y penwythnos i ben, ar nos Sul 8 Mehefin, bydd yna barti cloi arbennig yn lleoliad y Bunkhouse yn cynnwys setiau gan HMS Morris, Accü, SYBS, a Betsan. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig ac maent ar gael i’w harchebu nawr am ddim ond £10 ymlaen llaw trwy wefan y lleoliad.
Mae’r amserlen lawn a rhagor o wybodaeth ar gael nawr trwy wefan Menter Iaith Abertawe.