Mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth, PYST, wedi cyhoeddi manylion trydedd rownd eu cronfa fideos mewn partneriaeth gyda S4C.
Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid neu gyfarwyddwyr newydd oedd heb greu fideo gerddoriaeth Gymraeg o’r blaen.
Yn ôl PYST mae hyn wedi sicrhau twf yn y niferoedd fideos cerddoriaeth Cymraeg sydd yn cael eu creu yn ogystal â gweld artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir yn ymwneud â diwylliant Gymraeg am y tro cyntaf.
Yn ystod dwy rownd flaenorol y Gronfa ariannwyd 30 fideo newydd ac mae modd gwylio’r holl fideos ar sianel y Gronfa ar blatfform AM.
Ariannu 20 fideo arall
Bydd y drydedd Gronfa yn ariannu ugain fideo arall ac mae modd gwneud cais trwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.
“Mae wedi bod yn bleser mwynhau gweledigaeth a chyffro’r fideos hyd yma” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf.
“Nid yn unig maent wedi bod yn adnodd marchnata hanfodol i senglau yn cael eu rhyddhau ond mae hefyd wedi agor drysau i artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir a chymuned ymwneud â cherddoriaeth Cymraeg, gan ychwanegu at amrywiaeth a chyfoeth ein byd cerddorol.”
Yn ôl Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol y sianel, Beth Angell, mae S4C yn falch i allu parhau â’r prosiect.
“Mae’n bleser llwyr i S4C gefnogi’r gronfa unwaith eto” meddai.
“Mae’r creadigrwydd a chydweithio sydd wedi ei ddangos dros y blynyddoedd diwethaf yn destament i angerdd artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru – ac mi ydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld talentau newydd yn cael cyfle eto eleni.”
Cynhaliwyd lansiad trydedd gronfa fideos PYST x S4C yn Theatr Iâl, Coleg Cambria nos Wener diwethaf fel rhan o ŵyl FOCUS Wales.
Dyma fideo diweddaraf y prosiect sef ‘Sdim Mwg Heb Dân’ gan Lafant: