EP newydd gan CF24

Yn dilyn eu sioe lwyddiannus fel rhan o lwyfan DJs Maes B yn Wrecsam, mae CF24 yn ôl gydag ambell ailgymysgiad arbennig o’u set byw. 

‘Boddhad’ ydy enw’r EP newydd sydd allan ers 5 Medi.

Don the Prod, Lloyd Lewis ac Elliott Pughsley ydi aelodau CF24 ac maen nhw wedi bod yn creu cerddoriaeth ers cwpl o flynyddoedd bellach. 

Cafodd eu trac diwethaf ar label electronig HOSC, ‘Tylwyth Teg’ gyda Mali Hâf, ei ryddhau’n ôl ym mis Awst 2024 gan hoelio eu lle fel un o dimoedd cynhyrchu mwyaf cyffrous Cymru. 

Mae’r EP dau drac yma’n cynnwys ailgymysgiadau o’r trac ‘Dal Fi Lawr’ gan Yws Gwynedd ac Alys Williams, a ‘Gwell na Hyn’ gan Y Reu – dau drac aeth i lawr yn wych yn eu set ym Maes B, Wrecsam ddechrau fis Awst. 

Ar ôl cyfnod prysur gyda’u prosiectau unigol, mae’r triawd yn ôl yn gweithio ar gerddoriaeth newydd fel CF24 ac mae HOSC yn edrych ymlaen at ryddhau mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol agos.

Dyma ‘Dal Fi Lawr’:

Gadael Ymateb