Martyn Kinnear yn ailgymysgu trac Aleighcia Scott

Ail-gymysgiad Martyn Kinnear o sengl newydd Aleighcia Scott, ‘Dod o’r Galon’, ydy’r cynnyrch diweddaraf i’w ryddhau ar y label electroneg HOSC.

Rhyddhawyd y gân wreiddiol lai na mis yn ôl, cyn iddi gyrraedd rhif 1 ar siart reggae iTunes – y trac Cymraeg cyntaf i gyrraedd brig y rhestr honno. 

Anfonodd Martyn y trac at Aleighcia, a hi wedyn at y label, ac nawr mae allan ar HOSC, sy’n chwaer label i Recordiau Côsh, a ryddhaodd y trac gwreiddiol gan Aleighcia.

“Pan glywais fod Pen Dub ac Aleighcia Scott yn gwneud cân gyda’i gilydd, roeddwn i’n gwybod yn syth fy mod i eisiau ei hailgymysgu – cyn i mi glywed y gân hyd yn oed” meddai Martyn.

“Fy agwedd i at wneud ailgymysgiadau yw gwneud rhywbeth i swnio’n wahanol i’r gwreiddiol, fel arfer yn adeiladu’r trac o gwmpas y llais. 

“Roeddwn i eisiau creu trac oedd yn driw i naws y gân wreiddiol, dwi wrth fy modd yn gwneud remixes garage i artistiaid Cymraeg gan nad oes llawer o gynhyrchwyr yng Nghymru yn gwneud y math yma o gerddoriaeth” ychwanega’r cynhyrchydd.

“Yn y diwedd fe wnes i wneud rhywbeth gyda naws hafaidd, hapus sydd ag elfennau o gynhyrchwyr a helpodd fi i ddarganfod garej yn y lle cyntaf – un ohonyn nhw oedd Mark Hill (Artful Dodger) sy’n gynhyrchydd o Gwmbrân wnaeth cyd-ysgrifennu a chynhyrchu albwm cyntaf Craig David. Roeddwn eisiau gwneud remix gyda naws hiraethus, garej old school.

“Mae wedi bod yn fraint ailgymysgu trac Aleighcia – mae ganddi lais mor egnïol ac unigryw sy’n addas ar gyfer llawer o genres gwahanol a gobeithio ’mod i wedi gwneud cyfiawnder i’r gwreiddiol!”