Mae’r band dwy-ieithog o Bywys, Moletrap, wedi rhydhau eu EP newydd.
‘Mid Welsh, Pt. 1’ ydy enw’r record fer newydd ganddynt sydd allan yn annibynnol.
Band tri aelod o Ganolbarth Cymru a Bryste ydy Moletrap sef Matt ‘Malwyn’ Ball, Drew Carrington a Rhys Davies.
Mae’r band yn disgrifio eu cerddoriaeth fel pop melodig gyda gitars tarannol a sŵn trwm, deinamig.
Bu iddynt ryddhau eu sengl Gymraeg ‘Rhagofn’ ym mis Tachwedd llynedd, cyn rhyddhau’r senglau pellach ‘Taffy (Flags On Aber Prom)’ a ‘Middle of the Land’ yn gynharach eleni.
Maent wedi dal y sylw gyda’u canu pwerus, a geiriau sy’n treiddio’n ddwfn i treftadaeth Cymreig a dycnwch Canolbarth Cymru.
Nawr maent wedi rhyddhau eu EP pump trac sy’n cynnwys y dair sengl ynghyd â dwy gân arall sef ‘What a Beautiful Place’ a ‘Nation of Sanctuary’.
“Mae Mid Welsh part 1 yn gasgliad o bump cân am Ganolbarth Cymru a’r hyn mae’n ei olygu, i ni, i ddod o Ganolbarth Cymru” meddai’r band.
“Mae wedi bod yn daith annisgwyl, o sesiynau jamio i rywbeth mwy ystyrlon – cyfle i ddyfnhau’r cysylltiad gyda’n cartrefi.
“Mi wnaethon ni gyfarfod mewn ysgol iaith Gymraeg ble, ar y pryd doedden ni’n methu aros i adael yr ardal sydd â’r boblogaeth leiaf yng Nghymru a Lloegr, ac roeddwn ni’n ymwrthod â’r Gymraeg roedden ni’n cael ein dysgu yn y dosbarth.
“Ond dros y degawdau, gyda’r rhyddhad mae cerddoriaeth yn ei gynnig, fe ddaeth newid – rydym wedi darllen ein hanes, wedi archwilio pob rhan o’r [mynyddodd] Elenydd, wedi datblygu’n wleidyddol ac wedi sylweddol bod gwladychu Cymru wedi bod yn ymdrech hanesyddol i ddileu’r iaith Gymraeg.”
“Rydym wedi byw trwy’r broses barhaus i drawsnewid Canolbarth Cymru i fod yn ased ar gyfer y cyfoethog, ac yn atyniad twristaidd ar gyfer pobl. Mid Welsh part 1 ydy’r dechrau i ni a ble y gwnaethon ni ddarganfod ein llais go iawn. Rydym mor ddiolchgar o’r broses a’r modd mae wedi siapio ein ffordd o feddwl. ”
Dyma ‘Rhagofn’: