Mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth, PYST, wedi cyhoeddi manylion cronfa beilot newydd wedi’i anelu at gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru.
Bydd y gronfa newydd yn cefnogi pob math o weithgareddau; megis recordio a hyrwyddo recordiau, ffilmio rhaglenni dogfen a fideos cerddorol, darparu gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio, ysgrifennu blogiau a chylchgronau, recordio podlediadau a mwy.
Bydd y gefnogaeth hon yn galluogi i labeli recordio a sefydliadau cerddoriaeth i gynllunio, darparu ac ehangu ar ymgyrchoedd a phrosiectau newydd yn hyderus.
Mae gweithgaredd cerddoriaeth yng Nghymru yn ffynnu, ac mae hyn yn amlwg trwy’r nifer gynyddol o labeli recordio, ac mae’r gronfa hon yn anelu i helpu sefydliadau nad oes cyfleoedd ariannu amlwg ar eu cyfer oherwydd eu maint a’u natur.
Yn ôl PYST, bydd y gronfa hon yn galluogi mwy o weithgaredd yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, cynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad ar lefel llawr gwlad, a helpu i ddatblygu gwytnwch hirdymor diwydiant cerddoriaeth Cymru.
‘Y sefydliadau yma – labeli ac eraill – yw asgwrn cefn gweithgaredd cerddoriaeth yng Nghymru, ac mae ‘na fwlch o fewn cyfleoedd ariannu ar gyfer y math yma o weithgareddau wedi bodoli hyd yma” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST.
“Gyda chefnogaeth newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, gallwn beilota’r gronfa hon a dysgu mwy am sut gallwn gydweithio’n well er mwyn cynnal yr ecosystem gefnogol yma.”
Dywed y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, ei fod yn gobeithio bydd y gronfa’n help i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ymhellach.
“Mae’r gefnogaeth arbenigol yma yn hanfodol i’r gwneuthurwyr creadigol sydd yn gweithio’n ddiflino ar draws pob agwedd o ddiwydiant cerddoriaeth Cymru” meddai Jack Sargeant.
“Drwy gefnogi gweithgareddau creu cynnwys, rhwydweithio a marchnata, rydw i’n obeithiol y byddwn yn gallu helpu datblygu’r diwydiant ymhellach a chryfhau talent cerddoriaeth llawer gwlad yma yng Nghymru.”
Cyfanswm y gronfa ydy £75,000 ac mae sefydliadau yn gallu gwneud cais am hyd at £5,000 yr un.
Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan PYST ar ran Cymru Greadigol, ac ar agor am geisiadau ers 13 Awst, gyda dyddiad cau ar 3 Medi.
Bydd gweithgaredd o bob iaith yn cael eu hystyried. Bydd y ceisiadau’n cael eu dethol gan banel annibynnol.