Rhys Jones yn rhyddhau ‘creithiau’

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, Rhys Jones wedi rhyddhau ei sengl newydd. ‘creithiau’ ydy enw’r trac Cymraeg diweddaraf gan y cerddor sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r trac ar gael ar ei safle Bandcamp ers dydd Gwener 15 Awst.

‘creithiau’ ydy’r blas diweddaraf o’i albwm uniaith Gymraeg, fydd yn rhannu enw’r sengl newydd, ac a fydd allan cyn diwedd y flwyddyn yn ôl Rhys.

Hon ydy’r drydedd sengl o’r albwm i weld golau dydd.