Mae’r ddeuawd Eve Goodman a SERA wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, sef ‘Cwlwm Cariad’.
Dyma’r cynnig diweddaraf ganddynt sy’n parhau i ddatblygu ar thema’r prosiect sydd wedi’i ysbrydoli gan fyd natur. Mae’n ddilyniant i’r sengl ‘Blodyn Gwyllt’ a oedd yn ddathliad o ryddid yr haf, ond mae ‘Cwlwm Cariad’ yn eithaf gwahanol yn ôl y ddwy.
Mae ‘Cwlwm Cariad’ yn cyfeirio at fath o wyfyn, y ‘True Lover’s Knot’ yn Saesneg.
Nid oes gitars na offerynnau taro i’w clywed ar y sengl ddiweddaraf, dim ond un piano a dwy lais byw bron tan y diwedd.
Mae’n dyner ac mae’n canu am y perygl sydd yn aml ynghlwm â chymhlethdodau cariad a pherthnasau, yr angerdd, yr hunan ddinistr a hedfan yn rhy agos at y fflam. Y gwyfyn bregus a’r galon ddynol wedi’u cysylltu yn y ffordd hon.
Recordiwyd y trac ar biano talsyth ac mae lleisiau’r ddeuawd yn plethu gyda’i gilydd mewn cytgord unwaith eto. Cafodd ei recordio yn Wild End Studio ger Llanrwst, gyda’r cyd-gynhyrchydd Colin Bass, sy’n aelod o Camel a hefyd gynhyrchydd yr albwm ‘Tincian’ gan 9Bach a enillodd ‘Albwm Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 y BBC yn 2015.
Dechreuodd Eve Goodman a SERA gyd-weithio ar ôl iddynt gael eu dewis fel Artistiaid Gorwelion y BBC yn 2019. Roedd sawl peth yn gyffredin rhwng y ddwy, ac un o’r pethau hynny oedd eu cysylltiad â’u chwilfrydedd am natur.
Dechreuodd 2020 fel blwyddyn gyffrous i’r ddwy, gan berfformio ar Heno, yna’n fyw yn Stiwdios Maida Vale y BBC, a rhyddhau dwy gân boblogaidd, ‘Gaeafgwsg’ a ‘Rhwng y Coed’, a gafodd eu rhoi ar restr chwarae BBC Radio Cymru. Wrth gwrs, daeth cyfyngiadau Covid, a bu’n rhaid i’r prosiect gael seibiant am ychydig flynyddoedd.
Maent bellach yn ôl gyda’r senglau hyn ac yn cynnig blas o’r albwm sydd i ddilyn. Bydd fideo cerddoriaeth ar gyda ‘Cwlwm Cariad’ yn dilyn hefyd ar 18 Awst.
Dyma’r ail mewn cyfres o senglau gan yr artistiaid Eve Goodman a SERA o’u halbwm cydweithredol, ‘Natur’, sy’n cael ei ryddhau ym mis Hydref eleni.