Mae Chwaer Fawr, sef prosiect newydd yr artist cyfarwydd Mari Morgan, wedi rhyddhau ail sengl.
‘Mabolgampau’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd allan yn ddigidol ar label Klep Dim Trep.
Prosiect unigol Mari Morgan ydy Chwaer Fawr – mae Mari’n enw a wyneb cyfarwydd ar ôl bod yn aelod o Rogue Jones, Bitw a Saron cyn hyn.
Mae ‘Mabolgampau’ yn ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Diwedd’ a ryddhawyd yn gynharach ym mis Mai.
Mae’r gân yn gyflymach, yn fwy blêr ac yn fwy chwareus na’r sengl gyntaf, ac yn rhoi blas o’r gwahanol gyfeiriadau cerddorol sydd i’w clywed ar y record hir, ‘Diwedd’, fydd allan ddiwedd mis Mehefin.
Yr artist Esyllt Angharad Lewis sy’n gyfrifol am waith celf y sengl a’r albwm.
Unwaith eto, mae’r band yn cynnwys Llŷr Pari (Gwenno, Omaloma), Alex Morrison (Cate Le Bon, H. Hawkline), Gwion Llewelyn (Aldous Harding, Villagers) a Gruff ab Arwel (Bitw, Y Niwl), gyda Dafydd Owain yn ymuno ar y bas ar gyfer y ras ŵy-ar-lwy hon drwy wahanol ddylanwadau a chyfeirbwyntiau cerddorol, wrth i Chwaer Fawr neidio dros y clwydi, un cam yn nes tuag at y Diwedd.