Sengl newydd Gwenno Morgan

Mae’r pianydd talentog, Gwenno Morgan, wedi ryddhau ei sengl ddiweddaraf.

‘soar’ ydy enw’r trac newydd ganddi, a dyma’r blas cyntaf o’i EP nesaf.

Yn ôl Gwenno, enw’r EP newydd fydd ‘orbits’ a bydd yn cael ei ryddhau ar 10 Hydref eleni. Ar ‘soar’ mae Gwenno’n croesawu’r cerddorion Lara Wassenberg ar y fiola, Jessica Jennings ar y sielo ac Elizabeth Palmer ar y ffliwt.

Bydd unrhyw elw o werthiant yr EP newydd ar Bandcamp yn mynd tuag at EarthPercent sy’n gwneud gwaith i geisio mynd i’r afael a newid hinsawdd.   

llun gan Kristina Banholzer

Gadael Ymateb