Sengl newydd Lleucu Non

Mae Lleucu Non, sy’n enw amlwg fel animeiddiwr, ond bellach hefyd fel cerddor, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. 

‘Cleisha’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Lwcus T.

Mae’r gân yn llawn hiraeth, agosatrwydd a synau arbrofol, gan gyfuno gweadau lo-fi ac alawon melys. 

Fel yr arfer, mae Lleucu yn llwyddo i greu byd gweledol trawiadol i gyd-fynd â’r gerddoriaeth, a hynny yn amlwg yn y fideo o’i chreadigaeth ei hun. 

Mae’r sengl newydd yn arddangos gallu Lleucu unwaith eto i ddileu’r ffin rhwng cerddoriaeth a chelf weledol, gan gynnig rhywbeth sydd yr un pryd yn bersonol a chwareus tu hwnt. Gyda’i chyfuniad arbennig o wres acwstig, niwl electronig, mae Lleucu yn un o artistiaid mwyaf unigryw Cymru. 

Dyma’r fideo:

 

Gadael Ymateb