Sengl newydd Rhys Jones

Mae’r cerddor profiadol o Gaerdydd, Rhys Jones, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.

‘am y’ ydy enw’r sengl gyntaf o dair fydd yn cael eu rhyddhau wrth arwain at gyhoeddi albwm nesaf Rhys.

‘sketches in blue’ fydd enw chweched albwm y cerddor, ac mae’r sengl gyntaf i gynnig blas ar gael ar ei safle Bandcamp nawr

“Fel mae’r teitl yn awgrymu, ysgrifennais y caneuon heb lawer o olygu a’i recordio nhw yn fuan ar ol i’w ysgrifennu” meddai Rhys am ei record hir newydd.

“Caneuon tor-calon yn dilyn caneuon o galon lawn, yw’r ddau albwm nesa – ‘sketches in blue’ a ‘sketches in gold’.” Dywed y bydd caneuon yr ail albwm o’r ddau yn dilyn yn ddiweddaraf yn y flwyddyn.