Sgwrs Sgrech @ Storiel

Bydd sgwrs arbennig i gofio am un o’r cylchgronau cerddoriaeth Gymraeg enwocaf a mwyaf dylanwadol yn cael ei gynnal ym Mangor fis Tachwedd. 

‘Sgrech’ oedd y cylchgrawn cerddoriaeth a sefydlwyd gan Glyn Tomos ym 1978.

Bydd cyfle i glywed Glyn yn trafod hanes y cylchgrawn yn Storiel, Bangor ar 1 Tachwedd am 2 y prynhawn. 

Y darlledwr a sylwebydd pêl-droed, Nic Parry, fydd yn cadeirio’r sesiwn, ag yntau’n un o gyfranwyr y cylchgrawn. 

Bydd y sgwrs yn brynhawn i hel atgofion a chlywed hanesion difyr am sefydlu cylchgrawn roc a phop Cymraeg. 

Yn dilyn traddodiad cylchgronau fel Sŵn ac Asbri, a oedd wedi dod i ben yn gynharach yn y flwyddyn honno,  sefydlwyd Sgrech yn Dinorwig yn 1978 gyda’r prif amcan i roi sylw i sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog ar y pryd. Fe barodd y cyhoeddiad am 7 blynedd gan ddod yn llwyfan hollbwysig ar gyfer y sîn.  

O 1978 i 1985  ehangodd y  cylchgrawn ymhellach na chyhoeddiad mewn print gyda label yn rhyddhau record  aml gyfrannog, sef ‘Gorau Sgrech Sgrechian Corwen’ ar recordiau Tŷ Gwyn yn 1982, ynghyd â’r  nosweithiau gwobrwyo blynyddol enwog a gynhaliwyd i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg.

Bydd modd clywed  yr hanes i gyd  gan y sylfaenydd a phrif olygydd Sgrech, Glyn Tomos wrth iddo rannu hanesion niferus am y ‘Rolling Stone’ Cymraeg.

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad nawr. 

 

Gadael Ymateb