Tamaid olaf i aros pryd nes albwm Buddug

Wrth baratoi i gyhoeddi ei halbwm cyntaf, mae Buddug wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf fel tamaid pellach i aros pryd.

‘Tynnu Fi’n Ôl’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y gantores ifanc o Frynrefail, sydd allan ers dydd Gwener 30 Mai. 

Ddwy flynedd yn unig ers iddi gychwyn rhyddhau cerddoriaeth ar Recordiau Côsh, mae llwybr Buddug i boblogrwydd wedi bod yn syfrdanol o sydyn – llwybr sydd eisoes wedi arwain at gipio pedair o Wobrau’r Selar yn gynharach yn y flwyddyn eleni. 

Gyda phob sengl hyd yma’n denu miloedd o wrandawyr, a phob gig yn dwyn mwy o sylw, mae’r diwydiant rhyngwladol bellach wedi dechrau cymryd sylw o dalent amrwd Buddug a’i band – gyda’i sioe yn FOCUS Wales ddechrau’r mis yn llawn pobl ddylanwadol o’r diwydiant yn ôl pob sôn. 

Mae ‘Tynnu Fi’n Ôl’ yn gampwaith arall sy’n suddo’n syth i’r isymwybod, ac yn aros yno fel cân sy’n gyfarwydd ers blynyddoedd, gyda melodïau’r gyfansoddwraig yn taro deuddeg unwaith eto. 

Dyma’r sengl olaf cyn i Buddug ryddhau eu halbwm llawn cyntaf, ac mae disgwyl cyhoeddiad am ddyddiad rhyddhau hwnnw’n fuan iawn.