Ail-ryddhau albwm hafaliadau=equations 

Mae’r band hafaliadau=equations wedi ail-ryddhau eu halbwm cyntaf hunan-deitlog, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008.

Bydd nifer mae’n siŵr yn cofio enw’r grŵp a’r ffaith mai un o’r aelodau oedd yr actor Gareth Pierce, sydd bellach yn fwy enwog am chwarae cymeriad Todd Grimsaw yn opera sebon Coronation Street.

Ffurfiwyd y grŵp gan Gareth a Matthew Wall ym Mhwllheli ac ymunodd Owain Taylor-Shaw a’r actor arall, Mark Flanaghan (Jinks ar Pobol y Cwm) yn ddiweddarach.

Mae’r fersiwn newydd o albwm y band yn gweld y caneuon wedi eu hail-fastro. Mae’r albwm llawn bellach ar y llwyfannau digidol arferol.

Dyma’r trac ‘Gwerthu Fy Hun’: