Mae’r band o Fôn, Huw Aye Rebals, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Yr Unig Un’ ydy enw’r sengl newydd ganddynt a dyma’r blas olaf o albwm y band fydd yn dilyn yn fuan.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i ‘Y Tân’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni, a’r EP Boni a Claid a ryddhawyd llynedd.
Roedd y band yn perfformio fel prif fand mewn gig i gloi wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Saith Seren, Wrecsam y noson ar ôl rhyddhau’r sengl, sef nos Sadwrn 9 Awst.
Wrth ryddhau’r sengl newydd mae’r band hefyd wedi datgelu eu bod wedi gorffen recordio eu halbwm cyntaf, ac y byddan nhw’n cadarnhau dyddiad rhyddhau hwn yn fuan iawn gydag awgrym y gallai fod allan cyn diwedd yr haf hyd yn oed.
“Mae’r gân amdan y dewisiadau ma dyn yn gwneud a sut mae bod yn wreckless yn gallu gal canlyniad unig yn hwyrach mewn bywyd” meddai Huw Al, sef ffryntman y band, am y sengl newydd.
Dywed Huw bod fersiwn Saesneg o’r trac i ymddangos ar ddiwedd yr albwm fel trac bonws.
Gallwn hefyd ddisgwyl fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac yn fuan.
“Dani wan yn edrych mlaen i ffilmio y fideo nesa ac wrthi neud plania barod hefo Robin Abas sef y filmographer su newi neud fideo hefo Fleur De Lys” meddai Huw.
Mae rhestr hir o gyfleoedd i weld y band dros yr ychydig fisoedd nesaf, dyma rai ohonynt:
12 Awst – Sioe Môn
15 Awst – Yr Orsa, Bae Colwyn
30 Awst – Parti yn y Parc, Caergybi (efo aelodau Westlife a Boyzone)
20 Medi – Gŵyl y Glaw, Blaenau Ffestiniog
27 Medi – Llanllyfni (gyda Celt)
10 Hydref – Iorweth Arms (gyda Bwncat)h
11 Hydref – Vaults, Amlwch
25 Hydref – Griffin, Penrhyndeudraeth