Mae Aleighcia Scott wedi rhyddhau ei hail sengl reggae iaith Gymraeg.
‘Diolch’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Daw’r sengl newydd fel dilyniant i’r sengl ‘Dod o’r Galon’ a ryddhawyd ym mis Mawrth ac a gafodd lwyddiant mawr wrth gyrraedd rhif 1 yn siart reggae iTunes – y trac Cymraeg cyntaf erioed i wneud hynny.
Daw’r seren reggae o Gaerdydd ac mae ei gwreiddiau teuluol yn Jamaica. Mae ‘Diolch’ yn deyrnged dwym galon i aelod annwyl o’i theulu.
“Mae’r gân hon yn arbennig iawn i mi,” eglura Aleighcia.
“Mae wedi’i hysgrifennu am aelod annwyl iawn o’r teulu yr ydym wedi’i golli, yr oeddwn i eisiau ei ddathlu, ac i unrhyw un arall sydd eisiau gwneud yr un peth.”
Mae ‘Diolch’ yn cychwyn gyda riff organ egnïol, sydd wedi’i ysbrydoli gan ei diweddar ewythr.
Mae’r sengl yn cadw at ryseit ‘Dod o’r Galon’ ac yn gweld Aleighia yn cyd-weithio eto gyda’r cynhyrchydd Pen Dub.
“Adeiladais y cordiau a gosodais linell fas a oedd yn teimlo’n iawn, gan sianelu egni heintus Rub-a-Dub clasurol yr 80au,” eglura PenDub.
“Cafodd Mikey y naws gyda drwm cic grymus a snare tynn, tra bod hi-hats cyson yn gosod y rhythm. Mae cyrn gwych, gitâr wedi eu tampio, ac organ byrlymus yn dod â’r cyfan at ei gilydd, gan gyfuno’r enaid hen ffasiwn gyda thwist ffres, modern.”
Ynghyd â fideo arbennig a ffilmiwyd gan Prestigeous Pictures ym Marchnad Caerdydd, mae ‘Diolch’ yn plethu themâu o gariad, colled, ac atgofion sy’n para am byth gyda geiriau fel, “Gobeithio eich bod chi’n falch ohonof i / Diolch am y cariad / Rydych chi dal yma”.
Mae’r sengl yn arddangos dawn Aleighcia i gymysgu sawl genre ynghyd, gan uno rhythmau reggae dwfn â geiriau dwyieithog, llawn enaid.
Dyma ‘Diolch’: