Mae Gruff Rhys wedi datgelu manylion ei albwm Cymraeg newydd fydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi eleni, ac mae’r blas cyntaf o’r albwm ar gael nawr.
‘Dim Probs’ ydy enw record hir diweddaraf un o gerddorion amlycaf Cymru a bydd yn cael ei rhyddhau ar 12 Medi ar label Rock Action Records.
Dyma fydd nawfed albwm unigol y cerddor fu’n aelod o’r bandiau Super Furry Animals a Ffa Coffi Pawb, a’i albwm Cymraeg gyntaf ers ‘Pang!’ a ryddhawyd yn 2019.
Bydd yr albwm newydd ar gael ar ffurf CD, feinyl 12”, feinyl 12” lliw nifer cyfyngedig, ac ar gasét, yn ogystal ag ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
I ddathlu’r newyddion mae Gruff wedi rhyddhau blas cyntaf o’r albwm newydd ar ffurf y sengl ‘Chwyn Chwyldroadol’ sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 13 Mehefin ar y llwyfannau digidol.
Mae’r cerddor hefyd wedi datgelu y bydd yn perfformio nifer o sioeau byw yng Nghymru er mwyn hyrwyddo’r record newydd, a bydd manylion taith ryngwladol hefyd yn dilyn yn fuan. Mae tocynnau’r gigs Cymreig ar werth nawr.
O dic nefolaidd y gitâr acwstig ddiddiwedd sy’n agor yr albwm ar y trac ‘Pan Ddaw’r Haul i Fore’ i’r trac ysgytwol olaf, ‘Acw’, mae ‘Dim Probs’ yn albwm heriol a phrydferth ar yr un pryd.
Wedi’i recordio a’i gymysgu ym Mryste yn 2024 gyda’r cynhyrchydd Ali Chant (Yard Act/PJ Harvey, Dry Cleaning), mae ‘Dim Probs’ yn atseinio cynhesrwydd ac agosatrwydd albwm unigol cyntaf Gruff, ‘Yr Atal Genhedlaeth’ a ryddhawyd yn 2005, a thristwch serol ‘Seeking New Gods’ o 2021.
Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio’n gyfan gwbl yn y Gymraeg, mae ‘Dim Probs’ yn gosod y gwrandäwr yng nghornel y stiwdio, ochr yn ochr ag un o’n cyfansoddwyr mwyaf meddylgar wrth i’r caneuon dyfu o gwmpas ei lais a’i gitâr.. Y canlyniad yw record agos atoch a hypnotig sy’n cymysgu caneuon gwerinol acwstig a pheiriannau electronig cyntefig.
“Mae ‘Dim Probs’ yn ganlyniad o dreulio’r blynyddoedd diwethaf yn paratoi casgliad gyda ffrindiau o gasetiau cerddoriaeth electroneg Cymraeg yr 80au” eglura Gruff Rhys am yr albwm.
“Hyd yn oed os na chaiff y casglaid byth ei ryddhau mae rhai o’i weadau peiriannol wedi’u hymgorffori yn y record hon… wedi’u gwrthbwyso gan y ffaith i mi ei ysgrifennu i gyd gyda fy ngitâr acwstig rhad fel prif offeryn.
Gadewais rai o’r trefniadau yn syml iawn ond ar ganeuon eraill gofynais i ffrindiau o fy grŵp byw (Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Huw V Williams a Gavin Fitzjohn) i helpu ar ambell gân, ac mae Cate Le Bon a H Hawkline yn ychwanegu lleisiau cefndir ar y traciau agoriadol [‘Pan Ddaw’r Haul I Fore’ a ‘Chwyn Chwyldroadol!’]. O ystyried y cyfnod erchyll gwleidyddol sydd ohoni mae’r teitl Dim Probs yn jôc dywyll, yn enwedig gan fod y geiriau, gobeithio mewn ffordd chwareus, yn ymdrin yn amrywiol â marwolaeth [‘Taro #1 + #2’], chwyn [‘Chwyn Chwyldroadol!’], rhyfel. [‘Cyflafan’] a phlâ [‘Acw’].”
‘Chwyn Chwyldroadol!’ ydy’r sengl gyntaf o’r albwm sydd allan nawr fel blas cyntaf o’r hyn sydd i ddod ac mae Gruff yn egluro ei fod wedi troi at ei gymdogion wrth greu’r fideo ar gyfer y trac.
“Mae Chwyn Chwyldroadol! yn fyfyrdod ar ddirfodaeth a harddwch chwyn gardd ddomestig – gan eu cymharu â rhai bandiau gwerin a roc caled Cymraeg o’r 1970au fel Ac Eraill a Shwn” meddai.
“Fel hen ddyn 54 oed roedd canu am arddio yn swnio fel y math o destun y dylswn fedru canu amdano heb achosi cywilydd. Ar gyfer y fideo, roedd fy nghymydog Ryan Eddleston wedi codi canister yn cynnwys ychydig gannoedd o droedfeddi o ffilm 35mm yn mynd sbâr o’r ffilm gyffro ditectif Americanaidd gan Robert De Niro ac Al Pacino yn 2008, ‘Righteous Kill’, ffilmiwyd rhywfaint ohoni yn ôl pob golwg yng Nghasnewydd. Fe ffilmiodd fi ar y ffilm honno yn casglu chwyn yn yr ardd ar gamera Arriflex cludadwy o’r 1960au a ffefrid gan y New Wave Ffrengig a Coppola a fenthycwyd gan gymydog arall, Sam, a oedd yn arfer canu yn The Poppies.
“Datblygodd Sam y fideo ffrâm wrth ffrâm yn ei fath a golygodd Dylan Goch ef ar liniadur yn ei gegin rownd y gornel. Rwyf wrth fy modd â’r fideo a wnaethon nhw. Fy unig bryder yw y gallai Robert ac Al ddod i chwilio am eu stoc ffilm un diwrnod – maen nhw’n edrych yn reit fygythiol ar boster y ffilm.”
Mae modd gwylio’r fideo ar sianel YouTube Gruff Rhys nawr, neu gwyliwch isod.
Dyddiadau Taith Cymru
13 Medi – Bethesda, Gŵyl Ara Deg Festival
18 Medi – Portmeirion, Neuadd y Dref
19 Medi – Machynlleth, Y Tabernacl
20 Medi – Treorci, Park and Dare
30 Medi – Bodedern, Neuadd Goffa
1 Hydref – Rhydymain, Neuadd Bentref
3 Hydref – Rhoshirwaun, Neuadd Bentref
4 Hydref – Crymych, Neuadd y Farchnad